Gwyriadau Cyfredol
Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr
O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu.Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser. Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr
Conwy
Bae Cinmel, Conwy – Mae’r dargyfeiriad ar St Asaph Avenue yn ei le tan 31 Ionawr 2026. O 1 Awst tan 31 Hydref 2025, bydd y darn 20 i 30 metr o Lwybr Arfordir Cymru’n cael ei ailagor dros dro am ddau fis. O Hydref 2025, bydd y dargyfeiriad ar waith eto tan i’r gwaith gael ei gwblhau ddechrau 2026. Map dargyfeiriad St Asaph Avenue Bae Cinmel. (diweddarwyd 29 Gorffennaf 2025)
Gwynedd
Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau (diweddarwyd 5 Gorffennaf 2022)
Castell-nedd Port Talbot
Y Ceiau, ger Aberafan
Mae llwybr gwreiddiol Llwybr Arfordir Cymru i’r gogledd o Aberafan bellach ar gau. Cafodd ei gau am resymau diogelwch o ganlyniad i ddymchwel ac mae wedi’i rwystro i’r cyhoedd yma What3words amlach.esmwythder.hylifau
Mae’r llwybr newydd yn dilyn cyfeiriad y gogledd ar hyd Rhodfa Purcell (ger Clwb Morwrol Aberafan ar y groesffordd gyda Rhodfa Ysgarlad) ac i gyfeiriad y de ar Ffordd Brunel ger swyddfeydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot. Gweler y llwybr ar ein map rhyngweithiol (Diweddarwyd 8 Medi 2025).
Abertawe
Mae’r llwybr drwy Goedwig Cwm Ivy (llwybr troed LM4) wedi ailagor ar ôl cwblhau gwaith i dynnu coed heintiedig ym mis Rhagfyr 2025.
Mae’r llwybr ar hyd y morglawdd ger Cwm Ivy ar gau o hyd ers 2015 (llwybr troed LM1B) am fod nam yn y morglawdd rhwng Trwyn Whiteford tuag at Lanmadog. I barhau ar Lwybr Arfordir Cymru, dilynwch lwybr troed LM2B tua’r de ar Drwyn Whiteford i gyrraedd llwybr troed LM2A.
O lwybr troed LM2A, ewch am y de tuag at bentref Cwm Ivy ac yna trowch tua’r dwyrain gan ymuno â llwybr troed LM4 drwy Goed Cwm Ivy. Yna gallwch ddilyn llwybr troed LM1A ar gyfer y llwybr llanw uchel neu lanw isel am y dwyrain.
Gallwch weld map cyfredol o’r dargyfeiriad yma. Sylwch fod map y dargyfeiriad yn dangos rhifau’r llwybrau troed ond mae hefyd yn dal i ddangos bod y llwybr trwy Goedwig Cwm Ivy ar gau (sy’n anghywir). Bydd map wedi’i ddiweddaru yn dangos bod y llwybr trwy goedwig Cwm Ivy ar agor ar gael cyn gynted â phosibl. (Diweddarwyd 18 Rhagfyr 2025)
Tabl o Gwyriadau Cyfredol
Mae’r map rhyngweithiol yn dangos Llwybr Arfordir Cymru fel llinell borffor ac yn dangos unrhyw ddargyfeiriadau dros dro i’r llwybr fel trionglau melyn yn ôl eu lleoliad ar y llwybr. Mae’r dargyfeiriadau dros dro hefyd wedi’u rhestru yn ôl awdurdod unedol yn y tabl isod.
| Awdurdod Lleol | Lleoliad | Rheswm | Map Gwyriad | Dyddiad |
|---|---|---|---|---|
| Abertawe | Morglawdd Cwm Ivy | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
| Caerdydd | Canolog Caerdydd | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
| Conwy | Bae Cinmel (St Asaph Avenue) | Amddiffyn rhag llifogydd | cy | tan 31-01-2026 |
| Ddinbych | Rhyl glan y môr | Gwaith Amddiffyn Arfordirol | cy | tan 30-09-2025 |
| Gaerfyrddin | Talacharn llwybr cyhoeddus 22/15 (wedi dechrau 4 Mis Medi 2024) | Gwaith gan Dŵr Cymru | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
| Gaerfyrddin | Bryn Syr John, Talacharn, Sir Gâr | Tirlithriad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
| Gwynedd | Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog | Difrod storm | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
| Gwynedd | Nefyn (02.12.2025 diversion map to follow and exact location to be confirmed) | Tirlithriad | hyd nes y ceir rhybudd pellach | |
| Sir Benfro | Amroth | Tirlithriad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
| Sir Benfro | Traeth Mawr | Gwaith adeiladu - maes parcio a toiledau newydd. | cy | tan 08-06-2026 |
| Ynys Mon | Cemaes | Tirlithriad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Diweddarwyd ddiwethaf 19 Rhag 2025